Gwybodaeth i Westeion
Mae ein holl lety i westeion wedi'i leoli ar neu'n union wrth ymyl Campws Penglais, Aberystwyth, chwarter awr o gerdded o ganol y dref, gorsaf reilffordd a chyfleusterau pellach.
Gallwch gyrraedd o 3yh ymlaen.
Rhaid bod allan o’ch ystafell erbyn 10yb yn y Byncws neu 9yb ym mhob llety arall.
Os ydych am archebu mwy nag 20 ystafell am fwy na 4 wythnos, cysylltwch â ni ar cynadleddau@aber.ac.uk neu 01970 621960 am ddyfynbris.
COVID-19
Gofynnir i’r holl westeion ddilyn y mesurau isod bob amser, er eu diogelwch eu hunain:
- Peidiwch â theithio os cewch ganlyniad positif neu os bydd gennych dymheredd uchel, peswch newydd neu barhaus neu os yw eich synnwyr blas neu arogli yn newid.
- Os datblygwch symptomau Covid-19 yn ystod y cyfnod pan fyddwch yn aros gyda ni, gofynnwn ichi deithio adref yn ddi-oed. Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
- Os bydd rhaid canslo yn sgil salwch, ynysu neu ganllawiau gan y Llywodraeth sy’n gysylltiedig â Covid rhoddir ad-daliad llawn am y dyddiadau dan sylw.
- Cadwch ffenestri’r gegin ar agor er mwyn awyru. Gofynnwn ichi gadw pellter parchus rhyngoch ac unrhyw westeion eraill.
- Bydd ein staff yn glanhau’r holl fannau a chyfleusterau cymunedol yn ddyddiol. Gofynnwch ichi gadw pellter parchus rhyngoch a’n staff. Os ydych yn aros am gyfnod hwy, gofynnwn ichi adael eich ystafell wely yn ystod yr adeg bob wythnos pan fydd eich ystafell wely yn cael ei glanhau.
- Defnyddiwch y diheintydd dwylo a’r clytiau gwrthfeirysol a ddarparwyd ar eich cyfer.
- Bydd angen ichi ddilyn unrhyw fesurau Covid ychwanegol a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru.
- Hoffem atgoffa’r holl westeion bod y llety hwn yn cynnwys cyfleusterau cegin, cawod a thoiled a rennir. Dim ond os ydych yn gyfforddus â defnyddio cyfleusterau a rennir y dylech archebu’r llety hwn.